Nid oes angen rhoi adroddiad am bob problem, efallai y gallwch chi ei datrys eich hun.

Er mwyn ceisio eich helpu gyda rhai problemau cyffredin y gallwch chi eu datrys hebom ni rydym wedi llunio canllawiau defnyddiol.

Atebion Cyflym

A yw eich gwaith trwsio yn argyfwng?

Rydym yn gwybod y gall gwaith trwsio gael ei ddosbarthu i nifer o gategorïau, ond mae rhai sy’n cael eu hystyried yn argyfwng a byddwn yn ceisio eu datrys cyn gynted â phosibl.

Edrychwch pa waith trwsio sy’n cael ei ystyried yn argyfwng.

Gwaith Trwsio Argyfwng

Os yw eich gwaith trwsio yn argyfwng yna cysylltwch a ni ar 0800 183 5757 fel y gellir codi’r swydd ar 24 awr.

Gwaith Trwsio sy’n Codi’n Aml

Oherwydd Covid-19 mae’r gwaith trwsio wedi cronni, gall hyn effeithio ar y dyddiadau ar gyfer trefnu eich gwaith trwsio newydd. Mae tua 4-8 wythnos o oedi o ran amseroedd gwaith trwsio nad yw’n argyfwng, felly cofiwch hyn wrth gofnodi eich gwaith trwsio.

Er mwyn cael gwybod beth i’w wneud â Lleithder, anwedd a llwydni cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth

Os nad yw eich gwaith trwsio yn cael ei restru uchod, cliciwch ar y tîm perthnasol isod: